​ Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen addysg a hyfforddiant sy’n ymgorffori profiad gwaith, gan baratoi pobl ifanc ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol trwy eu helpu i fod yn ‘barod am waith’.

Porwch gyfleoedd JGW+ yng Nghaerdydd:

Mae JGW+ yn rhaglen hyfforddi a datblygu a ariennir yn llawn sy'n rhoi'r sgiliau, y cymwysterau a'r profiad sydd eu hangen arnoch i gael Prentisiaeth, sefydlu busnes neu ddod o hyd i swydd sy'n iawn i chi.

Os ydych yn byw yng Nghymru, rhwng 16-19 oed ac nad ydych mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant amser llawn, gallech elwa o JGW+. Mae’n rhaglen hyblyg, wedi’i dylunio o’ch cwmpas. Felly, mae’n opsiwn da p’un a ydych chi eisiau ychydig o help neu fwy o gymorth gydag anghenion penodol.

Archwiliwch Cyfle

Dysgu am Oes yw rhaglen addysg a dysgu Llamau.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd dysgu i bobl ifanc wella hunan-barch, datblygu sgiliau a symud tuag at ddyfodol mwy hyderus ac annibynnol. Gall dysgwyr ennill cymwysterau ac achrediadau, lleoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli a chymorth tuag at gyflogaeth a dysgu pellach.

Gall unrhyw berson ifanc 16-19 oed nad yw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd fynychu Dysgu am Oes.

Archwiliwch Cyfle

Datblygwch eich sgiliau, ennill profiad gwerthfawr, ac ennill hyd at £55 yr wythnos.

Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen ddysgu sy’n rhoi’r sgiliau a’r profiad sydd eu hangen arnoch i sicrhau cyflogaeth neu i symud ymlaen i Brentisiaeth neu ddysgu pellach yn y dyfodol.

Byddwch yn derbyn cefnogaeth gynhwysfawr i ddatblygu eich sgiliau, cynyddu eich gwybodaeth a chynnal eich iechyd a lles.

Archwiliwch Cyfle