Yma ar ‘Beth Sy’n Nesaf? Caerdydd ein nod yw grymuso pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu camau nesaf drwy ddarparu darpariaeth a chyfleoedd ôl-16 lleol, gweladwy a thryloyw ochr yn ochr â mynediad at wybodaeth marchnad lafur ranbarthol ddibynadwy i gefnogi pobl ifanc i drosglwyddo i addysg, cyflogaeth a hyfforddiant sy'n cyd-fynd â'u dyheadau a lle bydd y swyddi yng Nghaerdydd.
Os ydych chi’n gyflogwr/sefydliad sy’n gallu cynnig cyfleoedd i bobl ifanc 16-24 oed, ‘Beth Sy’ Nesaf? Caerdydd’ yw’r lle i wneud hynny, a’r peth gorau yw ei fod am ddim!
Mae ein nodwedd ‘Archwilio’ yn hyrwyddo cyfleoedd yn y meysydd canlynol:
- Ewch i'r chweched dosbarth
- Ewch i'r coleg
- Ewch i'r brifysgol
- Cyfleoedd i raddedigion
- Paratoi ar gyfer gwaith
- Twf Swyddi Cymru+
- Profiad Gwaith
- Byddwch yn wirfoddolwr
- Interniaethau
- Cael swydd
- Prentisiaethau
- Prentisiaethau gradd
- Cychwyn busnes
- Darpariaeth a chyfleoedd anghenion dysgu ychwanegol
- Cael eich ysbrydoli (archwiliwch gyfleoedd eraill)
Os hoffech ychwanegu cyfle at unrhyw un o’r tudalennau uchod yn ein nodwedd ‘Archwilio’, anfonwch y wybodaeth ganlynol at ein swyddog ôl-16 Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Testun yr e-bost: CYFLE WNC – (enw’r sefydliad)
- Nodwch y math o gyfle ac ar ba dudalennau yr hoffech iddo ymddangos
- Logo sefydliad cydraniad uchel (PNG / JPEG)
- Dolen URL i gyfle (os oes un) - os nad oes cyswllt, darparwch word doc gyda chynnwys sy'n amlinellu'r cyfle i ni greu tudalen bwrpasol
- Dyddiad cau:
- Asedau cyfryngau cysylltiedig e.e. e-daflen/poster
- Cyfieithiadau Cymraeg