Yn gyntaf, fe wnaethom lunio rhestr o leoedd yr oeddem am dynnu lluniau ohonynt. Fe wnaethon ni feddwl am wahanol leoliadau ledled Caerdydd sy'n arwyddocaol i ni neu efallai ein bod ni'n teimlo eu bod yn cael eu tangynrychioli. Sylwasom fod mwyafrif helaeth o'r lluniau a ddefnyddir i ddarlunio Caerdydd bob amser yn tueddu i ganolbwyntio ar yr un ychydig o leoedd yng nghanol y ddinas.

Roeddem am gynnwys amrywiaeth ehangach o leoliadau yn ein delweddau a thynnu lluniau a fyddai'n ymddangos yn fwy perthnasol a dilys i'r bobl ifanc sy'n byw yma. Roedd hyn yn cynnwys tynnu lluniau o fewn ein cymunedau lleol ac yn rhai o’n hoff lefydd ein hunain ledled y ddinas. Rydyn ni i gyd yn byw mewn gwahanol ardaloedd a oedd yn caniatáu i ni dynnu ystod amrywiol o ddelweddau.

 

Mae platfform What’s Next wedi’i anelu at bobl ifanc 16-24 oed, felly fe wnaethom dynnu lluniau mewn mannau a oedd yn golygu rhywbeth i ni yn y gobaith y bydd pobl ifanc eraill sy’n defnyddio’r wefan hon yn adnabod lleoedd sy’n gyfarwydd iddynt ac yn teimlo eu bod yn cael eu cynrychioli’n well. Treulion ni sawl wythnos ar y prosiect hwn a gwneud sawl ymweliad ag amrywiol leoedd roedden ni wedi'u dewis. Fe wnaethom ymweld ar wahanol adegau o'r dydd er mwyn dal ystod ehangach fyth o ddelweddau.

 

Roedd hwn yn gyfle unigryw ac roedd yn ddiddorol iawn cymryd rhan. Yn bersonol, nid oeddwn wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o'r blaen. Braf hefyd oedd mynd allan i dynnu lluniau o’r holl leoliadau gwahanol, fy hoff lefydd i ymweld â nhw oedd Bae Caerdydd a Sain Ffagan.

 

Trwy'r prosiect hwn bu modd i ni ddysgu nifer o sgiliau newydd y byddwn yn gallu eu trosglwyddo. Cawsom brofiad o ddefnyddio camera digidol, dysgu am gyfansoddi, rhoi cynnig ar wahanol dechnegau ffotograffiaeth a golygu lluniau. Cawsom arweiniad hefyd gan ffotograffydd profiadol a oedd yn hynod ddefnyddiol. Gwelsom fod y prosiect hwn yn ein galluogi i weld pethau mewn ffordd wahanol. Roedd yn bendant yn ein gwneud ni’n fwy ymwybodol o’n hamgylchedd ac roedd yn hwyl ystyried beth allai wneud llun da. Roedd llawer ohonom yn cytuno, trwy dynnu lluniau, ein bod wedi dechrau sylwi ar fanylion bach nad oeddem erioed wedi sylwi arnynt o'r blaen, hyd yn oed mewn lleoedd yr ydym yn ymweld â nhw'n aml.

 

Yn dilyn y prosiect hwn, efallai y bydd rhai ohonom nawr am ddatblygu ein sgiliau ffotograffiaeth ymhellach neu gael mynediad at gyfleoedd hyfforddi cysylltiedig. Doeddwn i erioed wedi defnyddio camera digidol yn iawn cyn cymryd rhan yn y prosiect hwn, felly roedd yn gyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd. Fe wnes i fwynhau dysgu am ffotograffiaeth yn fawr ac yn sicr byddai gen i ddiddordeb mewn dysgu mwy yn y dyfodol.

 

Roeddem hefyd yn gallu datblygu sgiliau ehangach ymhellach fel gwaith tîm a chyfathrebu trwy weithio ar brosiect gydag eraill a dilyn briff penodol.

 

Mae'n gyffrous gwybod y bydd ein gwaith nawr yn cael ei arddangos ar wefan Cyngor Caerdydd i eraill ei weld. Rydym yn hynod ddiolchgar am allu cymryd rhan yn y cyfle hwn ac edrychwn ymlaen at weld y delweddau terfynol.

Ysgrifennwyd gan Caitlin Kelly (Person Ifanc Ôl-16 gyda Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd)

 

Credydau Llun:

Alice Goodliffe

Caitlin Kelly

Martha Crimmins

Hana Dibachi

Keira James