Ar ôl gorffen eich TGAU, cewch gyfle i ddewis o blith colegau, chweched dosbarth a chyfleoedd addysg bellach eraill yng Nghaerdydd. Bydd y rhain i gyd yn cynnig amrywiaeth o bynciau a chyrsiau i chi ddewis ohonynt os ydych yn bwriadu parhau â'ch addysg.
Edrychwch ar yr opsiynau canlynol i weld beth sydd gan bob un i'w gynnig. Os hoffech wneud cais, gallwch gysylltu â'ch dewis goleg yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Mae Coleg Catholig Dewi Sant yn goleg chweched dosbarth yn benodol ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed, wedi’i leoli ar un campws ym Mhen-y-lan, Caerdydd. Mae'n cynnig cyrsiau Lefel 3 yn bennaf, gyda chymysgedd o Lefelau A, cymwysterau BTEC a Diplomâu CBAC. Yn adnabyddus am ei haddysg o ansawdd uchel, mae Coleg Dewi Sant yn cydnabod ei fod yn goleg sydd yno i wasanaethu’r gymuned o’i gwmpas. Mae'n goleg ar gyfer myfyrwyr o bob cefndir a gallu ac mae ganddo enw da am gefnogi pob dysgwr. Mae ganddo'r corff myfyrwyr mwyaf amrywiol o unrhyw goleg yng Nghymru. Mae dysgwyr yn ffynnu mewn awyrgylch o oddefgarwch a pharch. Mae tua 1500 o ddysgwyr yn mynychu Tyddewi bob blwyddyn, o Gaerdydd, RhCT, Caerffili, Bro Morgannwg a’r ardaloedd cyfagos. Mae dysgwyr mwy abl a dawnus yn elwa ar y Rhaglen Anrhydedd, rhaglen fugeiliol sy’n darparu ar gyfer angen dysgwyr am ddysgu uwch ac sy’n gwella dyheadau myfyrwyr ar ôl y coleg. Yn ogystal â rhaglenni bugeiliol cefnogol, mae gan Goleg Dewi Sant hefyd ddarpariaeth gref ar gyfer bywyd ar ôl Tyddewi – boed hynny’n brifysgol, prentisiaethau, neu gyflogaeth. I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau y mae Coleg Dewi Sant yn eu cynnig, ewch i www.stdavidscollege.ac.uk
Telephone : 02920 231211
Email : info@cardiffcityfc.org.uk
Contact : Cardiff City FC Foundation | Contact us
Twitter : @CCFC_Foundation
Facebook : @CardiffCityFCFoundation
Instargram : @ccfc_foundation
Website : Cardiff City FC Foundation | Home
Mae Coleg Catholig Dewi Sant yn goleg chweched dosbarth yn benodol ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed, wedi’i leoli ar un campws ym Mhen-y-lan, Caerdydd. Mae'n cynnig cyrsiau Lefel 3 yn bennaf, gyda chymysgedd o Lefelau A, cymwysterau BTEC a Diplomâu CBAC. Yn adnabyddus am ei haddysg o ansawdd uchel, mae Coleg Dewi Sant yn cydnabod ei fod yn goleg sydd yno i wasanaethu’r gymuned o’i gwmpas. Mae'n goleg ar gyfer myfyrwyr o bob cefndir a gallu ac mae ganddo enw da am gefnogi pob dysgwr. Mae ganddo'r corff myfyrwyr mwyaf amrywiol o unrhyw goleg yng Nghymru. Mae dysgwyr yn ffynnu mewn awyrgylch o oddefgarwch a pharch. Mae tua 1500 o ddysgwyr yn mynychu Tyddewi bob blwyddyn, o Gaerdydd, RhCT, Caerffili, Bro Morgannwg a’r ardaloedd cyfagos. Mae dysgwyr mwy abl a dawnus yn elwa ar y Rhaglen Anrhydedd, rhaglen fugeiliol sy’n darparu ar gyfer angen dysgwyr am ddysgu uwch ac sy’n gwella dyheadau myfyrwyr ar ôl y coleg. Yn ogystal â rhaglenni bugeiliol cefnogol, mae gan Goleg Dewi Sant hefyd ddarpariaeth gref ar gyfer bywyd ar ôl Tyddewi – boed hynny’n brifysgol, prentisiaethau, neu gyflogaeth. I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau y mae Coleg Dewi Sant yn eu cynnig, ewch i www.stdavidscollege.ac.uk
Telephone : 02920 498555
Email : enquiries@stdavidscollege.ac.uk
Twitter : @stdavidscoll
Facebook : @stdavidscatholiccollege
Instagram : @stdavidscollege
YouTube : St David's Catholic College
Website : St David's Catholic Sixth Form College
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) yn un o’r colegau mwyaf yn y wlad – yn trawsnewid addysg a hyfforddiant ledled rhanbarth prifddinas Cymru. Mae gennym dros 20,000 o fyfyrwyr bob blwyddyn a thîm mawr o staff sy’n cynnwys arbenigwyr yn eu diwydiannau a’u sectorau, a thimau cymorth gwybodus a phrofiadol. Rydym yn addysgu pobl mewn cyfleusterau diwydiant a chanolfannau rhagoriaeth o’r radd flaenaf yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg; yn y gymuned ac mewn gweithleoedd ledled y rhanbarth, Cymru a’r byd. Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i sicrhau ein bod yn cynnig addysg a hyfforddiant o’r ansawdd gorau – dyfarnodd Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant, Estyn, ‘da dwbl’ inni am ansawdd ein haddysgu a’n dysgu.
Telephone : 02920 250250
Email : info@cavc.ac.uk
Twitter : @CAVC
Facebook : @cardiffandvalecollege
Instagram : @cavcinsta
YouTube : Cardiff and Vale College | YouTube
Website : Cardiff and Vale College | Home
Mae Interniaethau â Chymorth yn helpu pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i drosglwyddo i waith. Mae CAVC yn cynnig tair rhaglen gyda lleoliadau mewn gwahanol fusnesau a rolau.
Ymwelwch
Dechreuwch yrfa gyffrous gyda'n Prentisiaeth Technegydd Peirianneg Rheilffyrdd tair blynedd. Cewch brofiad ymarferol, gweithio ochr yn ochr â pheirianwyr profiadol, defnyddio technoleg newydd ac arbenigo mewn un o chwe disgyblaeth sy'n hanfodol i'r rhwydwaith rheilffyrdd.
Darllen mwy
Mae Ysbyty Prifysgol Cymru yn chwilio am dderbynyddion brwdfrydig i ymuno â'i Dîm Gwasanaethau Mamolaeth. Cewch gyfle i ennill profiad ar draws yr uned famolaeth, gan ddarparu cymorth gweinyddol 24 awr y dydd a helpu i ddarparu gwasanaethau ymatebol a phrofiadau cadarnhaol i fenywod a theuluoedd.
Darllen mwy
Treuliwch flwyddyn yn gweithio ochr yn ochr ag economegwyr profiadol y llywodraeth, gan gyfrannu at bolisïau sy'n effeithio ar filiynau. Enillwch brofiad gwerthfawr, cefnogwch benderfyniadau allweddol, paratowch friffiau lefel uchel, a gwnewch effaith ystyrlon cyn dychwelyd i'ch astudiaethau.
Darllen mwy
Ydych chi'n fyfyriwr israddedig economeg yn eich blwyddyn olaf ond un, ac ar y trywydd iawn i ennill gradd 2:1 neu uwch? Cewch brofiad ymarferol o gymhwyso economeg i faterion byd go iawn drwy leoliad haf â thâl o 6–12 wythnos gyda Gwasanaeth Economaidd y Llywodraeth (Llywodraeth y DU).
Darllen mwy