Ar ôl gorffen eich TGAU, cewch gyfle i ddewis o blith colegau, chweched dosbarth a chyfleoedd addysg bellach eraill yng Nghaerdydd. Bydd y rhain i gyd yn cynnig amrywiaeth o bynciau a chyrsiau i chi ddewis ohonynt os ydych yn bwriadu parhau â'ch addysg.
Edrychwch ar yr opsiynau canlynol i weld beth sydd gan bob un i'w gynnig. Os hoffech wneud cais, gallwch gysylltu â'ch dewis goleg yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r dolenni isod.
Mae Coleg Catholig Dewi Sant yn goleg chweched dosbarth yn benodol ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed, wedi’i leoli ar un campws ym Mhen-y-lan, Caerdydd. Mae'n cynnig cyrsiau Lefel 3 yn bennaf, gyda chymysgedd o Lefelau A, cymwysterau BTEC a Diplomâu CBAC. Yn adnabyddus am ei haddysg o ansawdd uchel, mae Coleg Dewi Sant yn cydnabod ei fod yn goleg sydd yno i wasanaethu’r gymuned o’i gwmpas. Mae'n goleg ar gyfer myfyrwyr o bob cefndir a gallu ac mae ganddo enw da am gefnogi pob dysgwr. Mae ganddo'r corff myfyrwyr mwyaf amrywiol o unrhyw goleg yng Nghymru. Mae dysgwyr yn ffynnu mewn awyrgylch o oddefgarwch a pharch. Mae tua 1500 o ddysgwyr yn mynychu Tyddewi bob blwyddyn, o Gaerdydd, RhCT, Caerffili, Bro Morgannwg a’r ardaloedd cyfagos. Mae dysgwyr mwy abl a dawnus yn elwa ar y Rhaglen Anrhydedd, rhaglen fugeiliol sy’n darparu ar gyfer angen dysgwyr am ddysgu uwch ac sy’n gwella dyheadau myfyrwyr ar ôl y coleg. Yn ogystal â rhaglenni bugeiliol cefnogol, mae gan Goleg Dewi Sant hefyd ddarpariaeth gref ar gyfer bywyd ar ôl Tyddewi – boed hynny’n brifysgol, prentisiaethau, neu gyflogaeth. I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau y mae Coleg Dewi Sant yn eu cynnig, ewch i www.stdavidscollege.ac.uk
Telephone : 02920 231211
Email : info@cardiffcityfc.org.uk
Contact : Cardiff City FC Foundation | Contact us
Twitter : @CCFC_Foundation
Facebook : @CardiffCityFCFoundation
Instargram : @ccfc_foundation
Website : Cardiff City FC Foundation | Home
Mae Coleg Catholig Dewi Sant yn goleg chweched dosbarth yn benodol ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed, wedi’i leoli ar un campws ym Mhen-y-lan, Caerdydd. Mae'n cynnig cyrsiau Lefel 3 yn bennaf, gyda chymysgedd o Lefelau A, cymwysterau BTEC a Diplomâu CBAC. Yn adnabyddus am ei haddysg o ansawdd uchel, mae Coleg Dewi Sant yn cydnabod ei fod yn goleg sydd yno i wasanaethu’r gymuned o’i gwmpas. Mae'n goleg ar gyfer myfyrwyr o bob cefndir a gallu ac mae ganddo enw da am gefnogi pob dysgwr. Mae ganddo'r corff myfyrwyr mwyaf amrywiol o unrhyw goleg yng Nghymru. Mae dysgwyr yn ffynnu mewn awyrgylch o oddefgarwch a pharch. Mae tua 1500 o ddysgwyr yn mynychu Tyddewi bob blwyddyn, o Gaerdydd, RhCT, Caerffili, Bro Morgannwg a’r ardaloedd cyfagos. Mae dysgwyr mwy abl a dawnus yn elwa ar y Rhaglen Anrhydedd, rhaglen fugeiliol sy’n darparu ar gyfer angen dysgwyr am ddysgu uwch ac sy’n gwella dyheadau myfyrwyr ar ôl y coleg. Yn ogystal â rhaglenni bugeiliol cefnogol, mae gan Goleg Dewi Sant hefyd ddarpariaeth gref ar gyfer bywyd ar ôl Tyddewi – boed hynny’n brifysgol, prentisiaethau, neu gyflogaeth. I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau y mae Coleg Dewi Sant yn eu cynnig, ewch i www.stdavidscollege.ac.uk
Telephone : 02920 498555
Email : enquiries@stdavidscollege.ac.uk
Twitter : @stdavidscoll
Facebook : @stdavidscatholiccollege
Instagram : @stdavidscollege
YouTube : St David's Catholic College
Website : St David's Catholic Sixth Form College
Mae Coleg Caerdydd a’r Fro (CAVC) yn un o’r colegau mwyaf yn y wlad – yn trawsnewid addysg a hyfforddiant ledled rhanbarth prifddinas Cymru. Mae gennym dros 20,000 o fyfyrwyr bob blwyddyn a thîm mawr o staff sy’n cynnwys arbenigwyr yn eu diwydiannau a’u sectorau, a thimau cymorth gwybodus a phrofiadol. Rydym yn addysgu pobl mewn cyfleusterau diwydiant a chanolfannau rhagoriaeth o’r radd flaenaf yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg; yn y gymuned ac mewn gweithleoedd ledled y rhanbarth, Cymru a’r byd. Byddwn bob amser yn gwneud ein gorau i sicrhau ein bod yn cynnig addysg a hyfforddiant o’r ansawdd gorau – dyfarnodd Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant, Estyn, ‘da dwbl’ inni am ansawdd ein haddysgu a’n dysgu.
Telephone : 02920 250250
Email : info@cavc.ac.uk
Twitter : @CAVC
Facebook : @cardiffandvalecollege
Instagram : @cavcinsta
YouTube : Cardiff and Vale College | YouTube
Website : Cardiff and Vale College | Home
Mae Interniaethau â Chymorth yn helpu pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i drosglwyddo i waith. Mae CAVC yn cynnig tair rhaglen gyda lleoliadau mewn gwahanol fusnesau a rolau.
Ymwelwch
Mae’r Rheolwr Prosiect Graddedig yn cefnogi’r tîm i yrru prosiectau ymlaen, gan sicrhau bod cleientiaid yn derbyn yr asedau sydd eu hangen, gan weithredu fel cyswllt allweddol rhwng rhanddeiliaid drwy gydol y prosiect.
Darllen mwy
Mae graddedigion yn cael eu paru â pheirianwyr profiadol sy'n eu mentora wrth iddynt weithio ar brosiectau byw. Darperir hyfforddiant mewn offer peirianneg fel AutoCAD/Civils3D a, lle bo angen, meddalwedd modelu traffig fel LINSIG, TRANSYT, a VISSIM i feithrin sgiliau dylunio llawn.
Darllen mwy
Mae Gwasanaeth Cyfleusterau i Bobl Anabl Caerdydd yn darparu cymorth ariannol i helpu trigolion oedrannus, agored i niwed ac anabl i fyw’n annibynnol, gan gynnwys cyllid ar gyfer addasiadau, atgyweiriadau a chynnal a chadw tai.
Darllen mwy
Cyfle cyffrous i ymuno â CRT Homecare, gan gefnogi dinasyddion Caerdydd drwy atal derbyniadau i'r ysbyty, galluogi rhyddhau cleifion, a hyrwyddo annibyniaeth drwy asesu, cynlluniau cymorth wedi'u teilwra, a chydweithio â chydweithwyr iechyd i gyflawni nodau ail-alluogi a lles unigol.
Darllen mwy